Rhaglen Bywiogrwydd Mewn Cyfarfodydd – Ar ôl 6 Mis
Mae llawer o fy ngwaith wedi bod yn cwrdd ac yn adnabod Cyfeillion yn ei Cyfarfodydd Rhanbarth neu Lleol, yn gwrando eu storïau ac yn dysgu sut maen nhw eisiau datblygu a thyfu. Weithiau mae fy ymweliad yn cynnwys cyflwyniad byr am beth mae’r Rhaglen Bywiogrowydd yn gallu cynnig, ac efallai weithgaredd creadigol er mwyn hybu trafodaeth mewn grwpiau. Weithiau dwi’n hwyluso gwiethdy penodol ar ôl siarad gyda grŵp bach o Gyfeillion amdan beth mae eu Cyfarfod eisiau canolbwyntio. Yn aml bydd un o themâu o’r Ein Ffydd yn y Dyfodol. Amseroedd eraill gall fy ymweliad bod yn cyfarfod anffurfiol a dwi’n sgwrsio gyda baned ac yn darganfod ble mae’r pethau yn mynd o ran help gan y Rhaglen. Yn ogystal â ymweld grwpiau Cyfeillion mewn cyfarfodydd Rhanbarth a lleol, dw’i wedi cymryd rhan hefyd gyda grwpiau llai fel tîm clercio, grŵp adeilad, a gweithio ar Diddordeb arbenig – wyneb i wyneb a thrwy alwadau telegynadledda.
Yn ogystal â theithio o gwmpas Cymru dw’i wedi mynd i nifer o ddigwyddiadau gyda gweddill y tîm Bywiogrwydd gan gynnwys y Penwythnos Datblygu Tiwtor a’r Penwythnos Cyd-bwyllgorau am Quaker Life a Quaker Peace and Social Witness yn Woodbrooke. Rydym wedi treulio amser gyda’r tîm sy’n gwerthuso’r rhaglen, a gyda’r Grŵp Llywio Bywiogrwydd. Rydym yn cryfhau’r cysylltiadau â staff yn Friends House ac yn Woodbrooke er mwyn dod yn fwy ymwybodol o sut mae’r staff yn gallu cefnogi y Gyfeillion lleol.
Hyd yn hyn, dw’i wedi bod mewn cysylltiad â Gyfeillion o bron i hanner y 39 o gyfarfodydd yng Nghymru. Os hoffech wybod mwy am gymryd rhan, cysylltwch â fi.
Helen Oldridge
07422 972 990
ebost: heleno@quaker.org.uk
Mae'r dudalen hon ar gael yn English hefyd