“Mae’r llyfr hardd (cywrain/graenus/cynnil) hwn am Gymdeithas y
Cyfeillion yng Nghymru yn dwyn tystiolaeth ragorol i gyfraniad
diymhongar ond ffurfiannol iawn y Crynwyr wrth lunio synwyrusrwydd
moesol a diwylliannol y Gymru fodern. Dyma gyfraniad gwirioneddol at
ddeall, nid yn unig y Gymdeithas ond ei heffaith arnom i gyd hefyd.”
Rowan Williams, Meistr Coleg Magdalene Caergrawnt,
cyn Archesgob Caergaint.
“Da o beth fyddai i unrhyw un sydd am gael ymdeimlad o wead, blas y
bywyd Crynwrol, gychwyn yma, mewn casgliad sy’n darlunio cyferbyniad
creadigol da: nad trwy’r cyffredinol a’r damcaniaethol ond trwy’r penodol,
y gwahanol, lleisiau personol nifer o unigolion, y bydd gwir galon pethau
yn siarad. Mae gwreiddio datganiad Crynwrol o’r fath yn y profiad
Cymreig yn cryfhau ei rym i siarad â’r byd cyfan, tu hwnt i’r holl ffiniau.”
Philip Gross, enillydd gwobr T S Eliot 2009 am farddoniaeth.
“Mae’r myfyrdodau yma yn haeddu cael eu darllen yn eang oherwydd
eu bod yn sôn yn llawn teimlad am yr angen am lonyddwch ym
mhresenoldeb Duw i feithrin perthynas ag Ef a thrwy hynny gynnig
gwrthbwynt i’r rhai sy’n meddwl mai ‘ei bledio Ef â cheisiadau’ yw
ystyr gweddi.”
Barry Morgan, Archesgob Cymru.
TUA’R TARDDIAD
Crynwyr yng Nghymru
Llun y clawr | Pierino Algieri
Dylunydd | Elgan Griffiths
£8