Wrth wynebu cyfnod cythryblus, mae’r Crynwyr ym Mhrydain yn ceisio dyfodol…
…lle mae’r cyfarfod addoli yw’r sylfaen i fyw fel Crynwyr
Wrth addoli, down yn un â’r Ysbryd, â’n gilydd, ac â’n hunain gwirioneddol. Yr Ysbryd yw ffynhonnell y cryfder a’r arweiniad ar gyfer popeth ydym a phopeth a wnawn. Mae ein ffordd o addoli yn agored i bawb, ac fe’i gwnawn yn fwy hysbys.
…lle mae cymunedau’r Crynwyr yn gariadus, yn gynhwysol ac yn agored i bawb o bob oed
Caiff pawb eu clywed, eu gwerthfawrogi a’u cefnogi yn ein hanghenion a’n harweiniad. Caiff cyfraniad pawb ei dderbyn yn unol â’u doniau a’u hadnoddau. Caiff pawb eu croesawu a’u cynnwys. Y mae ffyrdd clir ac effeithiol i gydweithio ar feysydd sydd o bwys cyffredin. Mae cyfeillach a hwyl yn cryfhau’r cwlwm rhyngom, ac yn cyfoethogi cymuned gariadus.
…lle mae pob Cyfaill yn deall ac yn byw yn ôl disgyblaeth y Crynwyr
Mewn gwirionedd, ein disgyblaeth yw ‘Gollwng gafael a gadael i Dduw’: nid ‘Na wna’ na ‘Byddaf yn’ ond ‘Beth mae Cariad yn gofyn ohonom?’ Mae’n gweithio pan fyddwn yn ei ddeall ac yn ei arfer. Am ein bod yn ei ddeall, gallwn ei rannu ag eraill. Cawn ein harwain gan ein tystiolaeth, ond rhaid inni weithio ar yr hyn a olyga i bob un ohonom yn bersonol.
…lle mae gwerthoedd y Crynwyr yn weithredol yn y byd
Mae ein bywydau yn adrodd heddwch, cydraddoldeb, parch at y ddaear a’i holl drigolion. Cynigwn gyfeillgarwch i bawb a chydsafwn â’r rhai sydd ar yr ymylon. Mynegwn y gwirionedd â chariad wrth y rhai sydd mewn grym. Daliwn y rhai sydd mewn grym yn y Goleuni. Canfyddwn ffyrdd creadigol a di-drais i gyfleu ein neges. Rydym wedi ymrwymo i’r hirdaith hon; nid oes arnom ofn cymryd risg. Cawn ein galw i fyw yn y man lle mae ein llawenydd dwfn a newyn dwfn y byd yn cwrdd’.
…lle mae’r Crynwyr yn cydweithio
Rydym yn ymwybodol iawn na allwn roi’r byd yn ei le ar ein pen ein hunain. Gwerthfawrogwn waith pwysig pobl eraill. Drwy ymwneud â hwy rydym eisoes yn newid y byd. Rydym eisiau chwalu rhwystrau; gwrthodwn ragfarnu pwy i gynghreirio â hwy a phwy i beidio.
…lle mae’r Crynwyr yn adnabyddus a bod dealltwriaeth dda ohonynt
Rydym yn weithgar yn ein cymunedau lleol, yn ymestyn allan mewn cyfeillgarwch, ac yn gwneud mwy o ddefnydd o’n tai cwrdd at ddigwyddiadau ac i’w llogi neu roi eu benthyg. Mae’r holl aelodau yn barod a chanddynt y medrau i esbonio ffordd y Crynwyr yn hyderus a chlir i unrhyw un sy’n gofyn, yn ogystal â siarad yn gyhoeddus ar faterion o bwys. Rhannwn ein harferion fel sydd yn briodol a gwnawn ddefnydd llawn o gyfryngau perthnasol i ymgyrraedd yn eang. Mewn byd sy’n gynyddol ranedig, ceisiwn gynnig patrymau ac esiamplau o gymuned ofalgar.
… dyfodol lle’r ydym yn gadael i’n bywydau siarad.
Darlun ar ffurf geiriau yw Ein ffydd yn y byd; darlun o sut hoffai’r Crynwyr ym Mhrydain heddiw i’r gymdeithas fod yn y dyfodol; gan adael pob unigolyn, cyfarfod neu bwyllgor yn rhydd i ddirnad lle maent heddiw a phenderfynu wedyn ba gamau sydd angen iddynt gymryd i symud eu rhan hwy o’r Cyfarfod Blynyddol yn ei blaen tuag at y weledigaeth hon.
Y mae’n seiliedig ar gyfraniadau gan Grynwyr o bob rhan o Brydain, ac fe’i cymeradwywyd gan y Cyfarfod er Dioddefiannau ym mis Medi 2015.
I wybod mwy, ewch i www.quaker.org.uk/future neu holwch glerc eich cyfarfod Crynwyr.
Cyhoeddwyd ym mis Medi 2015 gan y Crynwyr ym Mhrydain. I gael rhagor o gopïau neu wybodaeth cysylltwch â Peter Sender ar 020 7663 1114 neu peters@quaker.org.uk
Delweddau © 2015 Judith Bromley
0388.RCO.0915
(Welsh leaflet pending. JM 01654 767523)