Neges gan y Crynwyr ar gyfer Etholiadau Cynulliad Cymru 2016
Y Gymru â garem…
Annwyl gyfeillion,
Wrth i ni agosáu at etholiadau Cynulliad Cenedlaethol Cymru a’r Comisiynwyr Heddlu a Throsedd – a hynny mewn berw o ddadlau gwleidyddol am Ewrop a dyfodol y diwydiant dur – mae mawr angen gweddïau ar ein gwleidyddion, aelodau’r pleidiau a’u teuluoedd a phleidleiswyr. Mae deunydd pwrpasol i’w gynnwys mewn gwasanaethau, cyrddau gweddi ac ati i’w gael ar ein gwefan – http://www.cytun.org.uk/etholiadau2016/deunyddaddoli.html
Ceir yno hefyd deunydd addoli ar bynciau tai a digartrefedd; yr amgylchedd a newid hinsawdd; a ffermio a chefn gwlad. Mae modd hefyd lawrlwytho fideos byr (tua 1 munud yr un) neu hwy (tua chwarter awr) am faterion tai a thlodi, a ffermio a chefn gwlad, a hynny trwy’r dudalen hon – http://www.cytun.org.uk/etholiadau2016/fideos.html Mae’r rhain yn addas ar gyfer gwasanaethau a nifer o gyd-destunau eraill, a byddem yn awyddus i ofyn i chi sicrhau fod eich cynulliedfaoedd yn gwybod am yr adnoddau hyn.
CYTÛN
Mae'r dudalen hon ar gael yn English hefyd