Cyfarfod y Cyfeillion yng Nghymru – Cyfarfod Nesaf
22ain Chwefror, Llanbedr Pont Steffan
Annwyl Gyfeillion,
Cynhelir Cyfarfod Nesaf y Cyfeillion yng Nghymru yn Ganolfan Steffan, Rhes Ffynnonbedr, Llanbedr Pont Steffan SA48 7BX
Byddwn yn agor gyda chyfnod o addoli distaw.
Dylid nodi bod Cyfeillion lleol yn cynnig llety dros nos.
Os oes gynnoch chi ddiddordeb, cysylltwch â: admin@quakersinwales.org.uk
Sesiwn y bore:
Mae’r Cyfeillion yng Nghymru yn ystyried y materion hynny y teimlwn eu bod yn hanfodol i’n bywydau fel Crynwyr.
Tynnodd y papur “Y Gwahaniaethau Diwylliannol” ein sylw at natur wahanol Cymru. Mae Llywodraeth Cymru wedi pwysleisio’r gwahaniaeth drwy’r ddeddfwriaeth y mae eisoes wedi’i phasio ond nid yw holl drigolion Cymru yn deall cyflawniadau a phosibiliadau’r genedl ddatganoledig. Bydd Peter yn arwain gweithdy ar y materion hynny a ddynodwyd gan Gyfarfodydd Ardal fel y rhai sy’n hanfodol i’r Cyfeillion yng Nghymru a bydd yn cyflwyno system i rannu datblygiadau sydd ar y gweill. A yw ein Tystiolaeth i’r Byd yn gweddu’n gyfforddus i’r datblygiadau blaengar hyn? A allwn ni, yn garfan fechan, effeithio ar y ffordd y mae ein cenedl yn datblygu?
Sesiwn y prynhawn:
Bydd y cyfarfod hwn yn cynnig y cyfle i Gyfeillion sydd â rolau penodol i gwrdd mewn grwpiau i rannu eu profiadau a dysgu oddi wrth ei gilydd. Y tro yma, Enwebiadau, gwaith gyda Phlant a Phobl Ifainc ac Ymddiriedolwyr a Thrysoryddion fydd dan sylw. Gwahoddwn yr holl Gyfeillion sy’n bresennol i’n helpu i ddirnad ffyrdd y gallwn gydweithio’n well, rhannu arferion da a symleiddio ein strwythurau fel y bydd deiliaid rolau’n cael cefnogaeth ddigonol a heb fod o dan ormod o bwysau.
2020
22ain Chwefror, LLANBEDR PONT STEFFAN
27ain Mehefin, BANGOR
24ain Hydref, Y FENNI
![]() |
ADDRODDIADAU |
2019.10 Trustee Report (short form)
2019.10 MFW Wales Focus Group Report – with addendum
2019.09 Submission to Agenda committee
2019.10 Report of The Royal Welsh Show
2019.10 Eisteddfod Report – Eisteddfod Genedlaethol Conwy 2019
Quaker Life representative Council – Building Inclusive Quaker Communities – Mental health.
Cofnodion y Cyfarfod a gynhaliwyd ddydd Sadwrn 26 Hydref 2019 yn y Drenewydd
Cofnodion Cyfarfod y Cyfeillion yng Nghymru
a gynhaliwyd yn Nhŷ Cwrdd Aberdaugleddau
22 Mehefin 2019
Cofnodion Cyfarfod y Cyfeillion yng Nghymru
a gynhaliwyd yn Aberystwyth 23 Chwefror 2019
Mae'r dudalen hon ar gael yn English hefyd