Eisteddfod Genedlaethol 2017
Yr Eiliad, yr Awr a’r Twll yn y Tô
Mewn oes lle mae llawer yn mynnu eu bod yn Anffyddwyr, lle saif hyn o berthynas i’r ymchwil barhaus am wirioneddau ysbrydol; a yw ymchwil yr artist am y ‘gwir gynefin’ yn ei efelychu.?
Mae James Turrell, yn Grynwr ac yn artist , a’i greadigaethau yn cyfleu profiadau cryf. Bu’n cydweithio gyda Cyfarfod Crynwyr Houston, Tecsas, ar Dy Cwrdd newydd, oedd yn cynnwys elfen sydd yn eitha adnabyddus yn ei waith, sef twll yn y tô, i amgyffred yr wybren.
Beth yw’r cydbwysedd rhwng y fath brofiad a’r gwerthoedd arhosol mewn ffydd; y berthynas rhwng y “sylweddoliad” a’r “creadigol”; “Gwyddom gan ddyfod yr Eiliad ein geni i’r Awr.”
Mae Cwrdd Caergybi yn eich gwahodd i ymuno gyda nhw ar Sul cyntaf yr Eisteddfod, 6ed o Awst. Rydym yn cyfarfod yng Nhanolfan Ucheldre Caergybi LL65 1TE am 10-30. Fe fyddem yn cynnal pryd o ranu bwyd ar ol y gwasanaeth ond peidiwch a poeni os ydych yn gwersylla a ddim yn gallu dod a bwyd, mae eich presenoldeb yn fwy pwysig..
Eisteddfod Genedlaethol 2016
Yn yr Eisteddfod yn y Fenni, traddododd Gethin Evans, aelod o Gwrdd Aberystwyth, ddarlith i gynulleidfa anrhydeddus, ar John Edward Southall (1855-1928), y cyhoeddwr ac awdur o Gasnewydd, brofodd i fod yn un a amddiffynwyr a lladmeryddion mwyaf brwd dros yr iaith Gymraeg yn ystod ei fywyd.
Ganwyd Southall i deulu Crynwrol yn Llanllieni, a dechreuodd gymeryd diddordeb yng Nghymru a’i haiaith pan yn ddisgybl yn ysgol y Crynwyr i fechgyn yn Efrog, Bootham. Erbyn 1880 roedd wedi sefydlu ei fusnes yng Nghasnewydd, a bu iddo gyhoeddi llyfrau yn y Gymraeg a Saesneg, ac yn arbennig llyfrau dwyieithog i ysgolion.
Roedd ei lyfr “Wales and Her Language” gyhoeddwyd yn 1892, nid yn unig yn adolygiad hanesyddol, ond ceisiai annog diddordeb, os nad deffro y Cymry i amddiffyn eu hiaith a meithrin mwy o barch tuag ati yn enwedig ymysg mewnfudwyr Seisnig i Gymru. I’w gymharu a’i gyd-addolwyr roedd ei ddiddordeb yn yr iaith yn anarferol.
Credai yn gryf mewn addysg ddwyieithog, mewn cyfnod lle nad oedd parch na sylw i’w roi i’r Gymraeg o fewn y gyfundrefn addysg., profodd ei ysgrifennu yn arf miniog yn y frwydr dros gydraddoldeb ieithyddol.
Ysgrifennai Southall hefyd yn y Gymraeg, gan gesio ailgyflwyno Crynwriaeth i Gymru a’i hanwybyddodd fel profiad byw ysbrydol.
Ategai darlith Gethin gynnwys ei lyfr, gyhoeddwyd yn 2014, “Benign Neglect: the Quakers and Wales c1860-1918” – astudiaeth o berthynas Cyfarfod Blynyddol Llundain a Chymru a materion Cymreig.
Os byw ac iach, gobeithir cyflwyno’r ddarlith yn Saesneg y flwyddyn nesaf yn ystod y Cyfarfod Blynyddol yn Warwick.
Oes gen ti ddiddordeb mewn mynd i’r Eisteddfod eleni?
Cer â hwn efo ti os wyt ti!
Bydd presenoldeb y Crynwyr yn yr Eisteddfod Genedlaethol eleni yn cynnwys staffio stondin am yr wythnos.
Prif rôl y gwirfoddolwyr fydd siarad am Grynwriaeth gyda hyder a brwdfrydedd gan annog pobl i ddarganfod mwy.
Rydym yn chwilio am wirfoddolwyr sy’n llawn cyffro wrth siarad am Grynwriaeth ac a fydd yn bresenoldeb hyderus dros y Crynwyr.
Bydd angen i ni wybod am dy argaeledd – am ba hyd ac ar ba ddiwrnodau.
Cysyllta â’n cydlynydd gwirfoddolwyr am sgwrs:
Cysylltwch â / Contact: Gwyneth 01407 765022 email/ebost: monfa@btinternet.com
Mae'r dudalen hon ar gael yn English hefyd