Cyfarfod y Cyfeillion yng Nghymru
Mae gan Gyfarfod y Cyfeillion yng Nghymru gyfrifoldebau ar ran Cyfarfod Blynyddol Prydain, i gynrychioli ac hyrwyddo bywyd a thystiolaeth y Crynwyr yng Nghymru. Mae'r cyfarfod yn cynnwys pawb o'r Crynwyr sydd yn byw yng Nghymru neu yn aelodau o gyfarfodydd lleol yng Nghymru. Gwneir darpariaeth i aelodau o gyfarfodydd eraill fynychu cyfarfodydd yn unol â
Mae cyfrifoldebau Cyfarfod y Cyfeillion yng Nghymru yn cynnwys:
a. ar y cyd â chyfarfodydd rhanbarth perthnasol a chyrff Crynwrol eraill hybu bywyd a thystiolaeth ysbrydol, hwyluso cyswllt rhwng Cyfeillion o bob oed a chynnig cyfleoedd am hyfforddiant a chyd gefnogaeth i'r rhai sydd â chyfrifoldebau arbennig;
b. cynrychioli Cyfarfod Blynyddol Prydain o fewn Cymru, gan gynnwys: penodi Cyfeillion i weithredu ar Cytûn (Eglwysi Ynghyd yng Nghymru) a'i bwyllgorau cyfathrebu gyda Llywodraeth Cynulliad Cymru a gyda chyrff cyhoeddus a gwirfoddol eraill yng Nghymru, yn enwedig y rhai sydd yn ymwneud â thystiolaeth gymdeithasol, heddwch ac amlffydd;
c. annog cyfathrebu oddiwrth y cyfarfodydd rhanbarth perthnasol ar faterion sydd, yn eu tyb hwy, yn haeddu cael eu cyd drafod, gan gynnwys tystiolaethau i fywyd a gwasanaeth Cyfeillion ymadawedig, gan ddirnad os dylid anfon rhain at y Cyfarfod Blynyddol er lles y Gymdeithas gyfan
d. ymateb i faterion sydd yn ymwneud â byw mewn cymdeithas dwyieithog gan gynnwys ymestyn i'r gymuned yng Nghymru a chomisiynu, cyfieithu a chyhoeddi deunydd Crynwrol yn y Gymraeg;
e. cynrychioli Cymru i Gyfarfod Blynyddol Prydain, gan gysylltu â phwyllgorau ac adrannau y cyfarfod blynyddol fel bo'n addas.
Fe fydd Cyfarfod y Cyfeillion yng Nghymru yn darparu gwybodaeth ac enwebiadau neu benodiadau i gyrff Crynwrol a chyrff eraill yn ôl y galw. Gall y Cyfarfod gysylltu trwy gofnod â Chyfarfod Blynyddol Prydain trwy ei bwyllgor agenda a'r Cyfarfod Dioddefiannau, ac hefyd â'r cyfarfodydd rhanbarth sy'n cynnwys rhannau o Gymru.
Mae hefyd yn ofynnol i'r cyfarfod dderbyn cofnodion gan y cyrff hyn.
Mae'r dudalen hon ar gael yn English hefyd