Mae Cymdeithas Grefyddol y Cyfeillion yn agored i bawb, felly dyma wahoddiad i chi ymuno â ni yn ein hymchwil ysbrydol.
Mae’n bur debyg eich bod chi’n gyfarwydd a’r enw, yn gwybod am ein haddoliad disgwylgar distaw, ond yn awyddus i wybod mwy.
Beth yw’r Crynwyr? mudiad? eglwys? crefydd? Cymdeithas Grefyddol y Cyfeillion yw’r enw llawn; cymdeithas o bobl a oedd, yn wreiddiol, ac sydd o hyd, yn edrych am ‘y gwirionedd’ yn eu bywydau ac mewn cymdeithas. Gall rhai deimlo fod Cymdeithas y Cyfeillion yn fwy o fudiad nag o enwad neu eglwys ac mae rhai Crynwyr yn aelodau o eglwysi eraill.
Hanes: Sefydlwyd y Crynwyr yng Nghymru ym 1653 gan Siôn ap Siôn (1625–1697); roedd Siôn yn un o gydweithwyr Morgan Llwyd yn Wrecsam a ddanfonwyd ganddo i sgwrsio â George Fox yn Swarthmoor am y Crynwyr; daeth yn ôl yn Grynwr a theithiodd drwy Gymru weddill ei oes yn annerch cyfarfodydd ac yn cyfieithu i Grynwyr blaenllaw o Loegr; bu rhai ardaloedd yn nodedig am eu hymlyniad i Grynwriaeth (megis Dolgellau a Phenllyn); Crynwyr oedd rhai o deuluoedd amlycaf maes masnach dros y canrifoedd (megis Lloyd, Fry, Cadbury, Darby); yng Nghymru bu rhai enwau blaenllaw yn gysylltieidig a’r Crynwyr mewn cyfnod mwy ddiweddar, megis George M. LL. Davies, Tom Nefyn a Waldo Williams.
Sut mae’r Crynwyr yn addoli? Profiad yw hanfod ffydd y Crynwyr ac mae’r dehongliad byw hwn o’r Ysbrydol yn ganolog i’n dull o addoli; rydym yn ymgynull mewn distarwydd gan fod yn agored i’n gilydd ac i arweiniad Ysbrydol; nid oes trefn ffurfiol; nid oes darlleniad na gweddi, o anghenrhaid; o bryd i’w gilydd fe fydd addolwr yn rhannu profiad neu sylw gyda’r cyfarfod; fe all yr addoliad fod yn gyfangwbl ddistaw; cydgyfarfod, cydaddoli a phrofi’r Ysbrydol gyda’n gilydd.
Y Crynwyr a chredoau:
Tyfodd Cymdeithas Grefyddol y Cyfeillion o wreiddiau Cristnogol, ac mae Crynwyr heddiw yn dal i dderbyn ysbrydoliaeth o’r Beibl ac o fywyd a dysgeidiaeth Iesu Grist, ond mae’n annochel fod gweledigaeth ysbrydol unigolion yn mynd i amrywio yn ei bwyslais yn ôl eu profiad a’u cefndir, ac mae Crynwyr hefyd yn amgyffred ystyr a gwerthoedd yn nysgeidiaeth credoau eraill. Mae Crynwyr, felly, yn osgoi crynhoi eu profiad mewn datganiad o ffydd gan gadw’r pwyslais ar y cyffyrddiad ysbrydol â’r unigolyn.
Heddiw:
Mae rhyw 1200 o aelodau a mynychwyr mewn tua 30 o gyfarfodydd ar draws Cymru heddiw o dan oruchwyliaeth Cyfarfod Crynwyr Cymru; drwy gyfrwng cyfarfodydd unigol a’r Gymdeithas gyfan, mae ein tystiolaeth ysbrydol yn dod yn dystiolaeth weithredol, ymarferol.
Mae'r dudalen hon ar gael yn English hefyd