Ai hwn yw y tro cyntaf i chwi fod mewn cyfarfod Crynwyr?
CROESO
Gobeithio y bydd y nodiadau hyn o gymorth i chwi addoli gyda ni
Sail cwrdd y Crynwyr yw distawrwydd, ond distawrwydd o aros disgwylgar ydyw. Efallai y bydd distawrwydd am rai munudau neu hwyrach am hanner awr. Ond nid yw hyn yn golygu nad oes dim yn digwydd. Mae pawb yn ceisio dod yn nes at ei gilydd ac at Dduw fel y cawn ein meddiannu gan ysbryd byw y cyfarfod.
Deuwn i’r cyfarfod am mai dyma yw ein dymuniad ac am ei fod yn brofiad gwerthfawr i ni. Nid adroddwn gredoau, ni chanwn emynau ac nid ailadroddwn weddïau ffurfiol. Rydym eisiau addoli’n syml. Nid oes na defod, nac offeiriad, na gwasanaeth a ragdrefnwyd.
Ewch i mewn cyn gynted â’ch bod yn barod. Mae’n beth da os gall y cwrdd ymlonyddu rhai munudau cyn yr amser penodedig. Eisteddwch lle y mynnwch, ond mae’n ddefnyddiol gadael seddau tua’r cefn ac ar ben y rhesi i’r hwyr-ddyfodiaid.
Hwyrach y cewch hi’n hawdd ymlacio yn y distawrwydd a thrwy hynny ymuno yn ysbryd y cwrdd, neu efallai y bydd dieithrwch y distawrwydd neu swn o’r tu allan, neu eich meddyliau crwydrol yn aflonyddu arnoch. Peidiwch â phoeni am hyn ond dychwelwch drachefn a thrachefn at ganolbwynt tawel eich bywyd mewnol lle y gallwch ymdeimlo presenoldeb Duw. Ceisiwch, pe bai dim ond am eiliad, ymdawelu’n gorfforol, yn feddyliol ac yn ysbrydol.
Mae bron pawb ar ryw adeg neu’i gilydd yn teimlo’r angen i ddarganfod Duw drostynt eu hunain – hyd yn oed y rheini sy’n ei chael yn anodd neu’n amhosibl i gredu yn ei fodolaeth. Hwyrach fe gyflyrir rhai gan ryw brofiad cyffrous neu broblem arbennig. Ni waeth beth sy’n pwyso ar eich meddwl ar y funud, dewch ag ef gyda chi i’r ystafell dawel.
Fe dorrir ar y distawrwydd pan deimla un o’r rhai sy’n bresennol fod cyfraniad i’w wneud a fydd yn dwysau ac yn cyfoethogi’r profiad o addoli. Mae rhyddid i bob un siarad, weddïo neu ddarllen os yw’n ymateb i anogaeth yr ysbryd a ddaw yn ystod y cyfarfod. Torrir ar y distawrwydd am ychydig ond nid yw yn cael ei atal.
Derbyniwch yr hyn a ddywedir mewn ysbryd cariadus. Bydd pob gwir genadwri yn gymorth i rywun, ond y mae ein hanghenion yn wahanol a rhaid eu bodloni mewn ffyrdd gwahanol. Onid yw y neges yn ‘cyffwrdd â’ch cyflwr’ ceisiwch er hynny wethfawrogi’r ysbryd to ôl i’r geiriau. Dymuniad y siaradwr yw cynorthwyo’r cyfarfod: gwyliwch rhag gwrthod ei neges drwy feirniadaeth negyddol.
Un o nodweddion unigryw cwrdd y Crynwyr yw’r amrywiaeth profiad mae’n ei gynnwys. Caiff rhai pobl deimlad dwys o barchedig ofn a syndod gan eu bod yn gwybod bod Duw yn bresennol. Bydd eraill yn llawer llai sicr, ac ond yn medru amgyffred mewn modd annelwig fod y gwerthoedd a brofant mewn bywyd yn cyfeirio tu hwnt iddyn nhw eu hunain at gyfanrwydd mwy.
Derbynia rhai yn ddiolchgar gariad dihysbydd Duw a welir yn Iesu, a’i addewid i faddau iddynt a diddymu methiannau’r gorffennol. Bydd eraill yn gwybod mai ceisio bod yn agored i bobl mewn ysbryd cariad ac ymddiriedaeth yw’r cyfeiriad y dymunent ei ddilyn. Yn nistawrwydd cyfarfod y Crynwyr gall y rhai sy’n bresennol ddod yn ymwybodol o ysbryd dwys a grymus cariad’ a gwirionedd sydd uwchlaw eu profiad cyffredin. Yn unedig mewn cariad ac wedi eu nerthu gan y gwirionedd, mae’r addolwyr yn profi gwedd newydd ar fywyd er gwaethaf eu gwahanol eglurhad o’r profiad sy’n agor i fywyd helaethach.
Daw y cyfarfod i ben wedi i’r Henuriaid ysgwyd llaw. Wedi hyn teimlwch eich hun yn rhydd i siarad ag unrhyw un. Os ydych am wybod mwy am y Crynwyr, byddwch mor garedig a chyflwyno eich hun i unrhyw aelod. Gellwch gael benthyg llyfrau o’r llyfrgell, ac mae llenyddiaeth arall ar gael. Tra byddwch yn eistedd yn y cyfarfod am y tro cyntaf efallai y bydd o gymorth i chwi ail ddarllen y daflen bon.
Cyhoeddwyd y daflen hon gan Gyfarfod y Cyfeillion yng Nghymru. Am fwy o wybodaeth am y Gymdeithas gellir cysylltu trwy: Religious Society of Friends (Quakers), Friends House, Euston Road, London NW1 2BJ.
Tel: 0171 663 1000 e-mail: qhs@quaker.org.uk
www: http://www.quaker.org.uk
@ QUAKER HOME SERVICE 1998
Ail gyhoeddiad yn y Gymraeg 1999
copi 28-12-05
Mae'r dudalen hon ar gael yn English hefyd