Cynghorion a Holiadau
1. Ystyriwch, Gyfeillion annwyl, gymhellion cariad a gwirionedd yn eich calonnau. Ymddiriedwch ynddynt fel arweiniad Duw, Goleuni yr hwn sy’n dangos i ni ein tywyllwch gan ein dwyn i fywyd newydd.
2. Dygwch eich holl fywyd dan reolaeth Ysbryd Crist. A ydych yn agored i allu iachusol cariad Duw? Coleddwch yr hyn sydd o Dduw ynoch, fel y bo i’r cariad hwn dyfu ynoch a’ch arwain. Boed i’ch addoliad a’ch bywyd beunyddiol gyfoethogi ei gilydd. Trysorwch eich profiad o Dduw, pa fodd bynnag y daw i’ch rhan. Cofiwch nad damcaniaeth yw Cristnogaeth, eithr ffordd.
3. A ydych yn ceisio neilltuo adegau o dawelwch i fod yn agored i’r Ysbryd Glân? Y mae ar bob un ohonom angen canfod ffordd i mewn i ddistawrwydd sy’n ein galluogi i ddyfnhau’n hymwybyddiaeth o’r dwyfol ac i ganfod tarddle mewnol ein nerth. Ceisiwch lonyddwch mewnol, hyd yn oed ynghanol gweithgareddau bywyd beunyddiol. A ydych yn eithrin ynoch eich hun ac mewn eraill yr arfer o ddibynnu ar arweiniad dyddiol Duw? Daliwch eich hunan ac eraill yn y Goleuni, gan wybod fod Duw yn coleddu pawb oll.
4. Gwreiddiwyd Cymdeithas Grefyddol y Cyfeillion mewn Cristnogaeth a chafodd ysbrydoliaeth yn wastad o fywyd a dysgeidiaeth Iesu. Pa fodd y dehonglwch eich ffydd yng ngoleuni’r dreftadaeth hon? Pa fodd y llefara Iesu wrthych heddiw? . . .
A ydych yn dilyn esiampl Iesu o gariad ar waith? A ydych yn dysgu o’fywyd reality a chost ufudd-dod i Dduw? Pa fodd y mae ei berthynas â Duw yn eich herio a’ch ysbrydoli?
5. Cymerwch amser i ddysgu am brofiadau pobl eraill o’r Goleuni. Cofiwch bwysigrwydd y Beibl, ysgrifeniadau Cyfeillion a phob llyfr sy’n datguddio ffyrdd Duw. A chwithau’n cael eich dysgu gan eraill, a fedrwch yn eich tro gyfrannu’n rhydd o’r hyn a dderbyniasoch? Tra’n parchu profiadau ac opiniynau pobl eraill, nac ofnwch fynegi yr hyn a gawsoch a’r hyn yr ydych yn ei gyfrif yn werthfawr. Cofiwch y gall amheuarth a chwestiynu arwain hefyd at dwf ysbrydol ac at ymwybyddiaeth ehangach o’r Goleuni sydd ynom oll.
6. A ydych yn cydweithio’n llawen gyda grwpiau crefyddol eraill tuag at amcanion cyffredin? Gan fod yn ffyddlon i’r weledigiaeth Grynwrol, ceisiwch guda dychmwg ran ym mywyd a thystiolaeth aelwydydd eraill o ffydd, gan greu ynghyd rwymau cyfeillgarwch.
7. Ymglywch ag ysbryd Duw ar waith yng ngweithgareddau cyffredin a phrofiad eich byw beunyddiol. Pery addysg ysbrydol gydol bywyd, yn aml mewn ffyrdd annisgwyl. Ceir ysbrydoliaeth o’n hamgylch ym mhobman, ym myd natur, yn y gwyddorau a’r celfyddydau, yn ein gwaith a’n cyfeillgarwch, yn ein gofidiau fel yn ein llawenydd. A ydych yn agored i oleuni newydd, o ba ffynhonnell bynnag y dêl? A ydych yn ddetholgar wrth ystyried syniadau newydd?
8. Addoliad yw ein hymateb i ymglywed â Duw. Gallwn addoli ar ein pennau’n hunain, ond pan ymunwn ag eraill mewn aros disgwylgar, gallwn ddarganfod ymwybyddiaeth ddyfnach o bresenoldeb Duw. Yn ein cyrddau addoli ceisiwn ymgynnull mewn llonyddwch fel y cawn oll deimlo nerth cariad Duw yn ein tynnu ynghyd ac yn ein tywys.
9. Yn yr addoliad, fe awn gyda pharch i gymundeb â Duw, gan ymateb i anogaethau’r Ysbryd Glân. Deuwch i’r cyfarfod addoli wedi ymbaratoi yn eich calon a’ch meddwl. Ildiwch eich hunain a’ch holl ofalonallanol i arweiniad Duw, fel y caffoch ‘y drwg yn gwanhau ynoch a’r da yn ymddyrchafu’.
10. Deuwch yn gyson i’r cwrdd addoli, hyd yn oed pan fyddoch ddig, neu’n isel-ysbryd, neu’n flinedig, neu’n oer yn ysbrydol. Yn y distawrwydd, ceisiwch a derbyniwch gefnogaeth weddigar eich cyd-addolwyr. Ceisiwch ganfod cyfanrwydd ysbrydol sy’n cwmpasu dioddefaint yn ogystal â diolchgarwch a llawenydd. Yn anad unpeth arall fe all gweddi sy.n tarddu o ddwfn y galon ddwyn gwellhad ac undod. Gadewch i’r cwrdd addoli faethu eich holl fywyd.
11. Byddwch onest â chwi’ch hunan. Pa wirioneddau diflas y dichon eich bod yn eu hosgoi? O adnabod eich ffaeleddau, na foed i hynny eich digalonni . . . Mewn cydaddoli, gallwn ganfod y sicrwydd o gariad Duw a chanfod o’r newydd y dewrder i ddal ati.
12. Pan fyddoch synfyffyriol neu ddryslyd yn y cwrdd addoli, gadewch i feddyliay cyndyn neu anesmwyth ymollwng yn dawel i’r ymwybod o bresenoldeb Duw yn ein mysg ac yn y byd. Derbyniwch weinidogaeth lafar eraill mewn ysbryd addfwyn a chreadigol. Estynnwch am yr ystyr sy’n ddwfn ymhlyg ynddo. Hyd yn oed os nad yw’r air Duw i chwi, gall fod felly i eraill. Cofier ein bod oll yn rhannu cyfrifoldeb am y cwrdd addoli, pa un bynnag ai mewn distawrwydd neu ynteu trwy’r gair llafar y bo’n gweinidogaeth.
13. Na thybiwch na fydd eich rhan chwi byth yn weinidogaeth lafar. Fe ddichon cywirdeb a didwylledd wrth siarad, hyd yn oed yn fyr, agor y ffordd i weinidogaeth lawnach gan eraill. Pan ysgogir chwi i lefaru, arhoswch yn amyneddgar i wybod fod yr arweiniad a’r adeg yn briodol, ond na foed ymdeimlo â’ch annheilyngdod eich hun yn rhwystr. Gweddïwch am i’ch gweinidogaeth godi o ddyfnder profiad, ac ymddiriedwch y rhoir geiriau i chwi. Ceisiwch siarad yn glywadwy a chroyw, gan feddwl am anghenion pobl eraill. Gochelwch rhag siarad yn ystrydebol neu’n rhy aml. Gochelwch rhag ymhelaethu tua diwedd cwrdd pan fyddid eisoes wedi’i iawn derfynu.
14. A gynhelir eich cyrddau ynglyn â materion eglwysig mewn ysbryd addolgar gan ddibynnu ar gyfarwyddyd Duw? . . . Cofiwch nad ydym yn ceisio penderfyniad trwy fwyafrif na hyd yn oed trwy gonsenws. Tra’n aros yn amyneddgar am arweiniad dwyfol, ein profiad yw y bydd y llwybr iawn yn ymagor ac y cawn ein tywys i undod.
15. A ydych yn cymryd rhan mor fynach ag a galloch mewn cyrddau ynglyn â materion eglwysig? a ysych yn ddigon cyfarwydd â’n llywodraeth eglwysig i gyfrannu i’w phrosesau disgybledig? A ydych yn ystyried cwestiynau anodd gyda meddwl gwybodus yn ogystal ag mewn ysbryd haelfrydig a chariadus? A ydych yn fodlon i’ch dirnadaeth a’ch dymuniadau personol gymryd eu lle ochr yn ochr â’r eiddo eraill, neu gael eu gosod o’r neilltu, wrth i’r cwrdd chwilio am y llwybr cywir ymlaen? Oni ellwch fod yn bresennol, cynhaliwch y cwrdd yn weddigar.
16. A ydych yn croesawu’r amrywiaeth mewn diwylliant ac iaith a mynegiant ffydd sydd o fewn ein cyfarfod blynyddol ac yn y gymuned fyd-eang o Gyfeillion? Ceisiwch gynyddu eich amgyffred gan elwa o’r dreftadaeth gyfoethog hon a’r ystod eang o ddirnadaeth ysbrydol. Cynhaliwch yn eich gweddïau eich cyfarfod blynyddol a hefyd gyfarfodydd blynyddol eraill.
17. A ydych yn parch’r hyn sydd o Dduw ym mhawb, er y gall fod wedi ei fynegi mewn ffyrdd anghyfarwydd neu ynteu’n anodd ei ddirnad? . . . . Y mae i bob un ohonom brofiad neilltuol o Dduw a rhaid i bob un ohonom ganfod sut i fod yn ffyddlon i’r profiad hwnnw. Pan fo geiriau’n ddieithr i chwi neu’n tarfu arnoch, ceisiwch synhwyro o ba le y daethant, gan ystyried yr hyn a fu’n maethu bywydau pobl eraill. Gwrandewch yn amyneddgar, a cheisiwch y gwirionedd fo i chwi yn naliadau pobl eraill. Gochelwch rhag beirniadaeth sy’n clwyfo ac iaith sy’n cythruddo. Peidiwch â gadael i gryfder eich argyhoeddiadau beri ichwi wneud gosodiadau neu honiadau neu anwir. Ystyriwch y gellwch fod yn camsynied.
18. Pa fodd y gallwn wneud y cwrdd yn gymuned lle caiff pob person ei dderbyn a’i faethu, a lle caiff dieithriaid groeso? Ceisiwch adnabod eich gilydd yn y pethau tragwyddol; dygwch faich methiannau’ch gilydd a gweddïwch bawb dros eich gilydd. Wrth i ni gyfranogi mewn tynerwch o lawenydd a thrallod bywyd beunyddiol ein gilydd, yn barod i roddi help ac i’w dderbyn, gall ein cwrdd fod yn gyfrwng i gariad a maddeuant Duw.
19. Llawenhewch ym mhresenoldeb plant a phobl ifanc yn eich cwrdd, gan gydnabod y doniau sydd ganddynt. Cofiwch fod y cwrdd oll yn rhannu cyfrifoldeb am bob plentyn yn ei ofal. Ceisiwch iddynt hwy, fel i chwi’ch hunain, ddatblydiad llawn o ddoniau Duw a’r bywyd helaeth y dywedodd Iesu y gallem ei feddiannu. Pa fodd yr ydych yn cydrannu’ch daliadau dyfnaf â hwy, gan adael rhyddid iddynt ddatblygu yn y modd yr arweinio ysbryd Duw hwynt? A ydych yn eu gwahodd i rannu gyda chwi eu dirnadaeth? . . . A ydych yn barod i ddysgu ganddynt ac, ar yr un pryd, i dderbyn eich cyfrifoldebau tuag atynt?
20. A roddwch ddigon o amser i rannu gydag eraill, yn newydd-ddyfodiaid ac yn rhai a fu’n aelodau ers tro, eich dealltwriaeth o addoli ac o wasanaeth ac o ymrwymiad i dystiolaeth y Gymdeithas? A roddwch gyfran briodol o’ch arian i gynnal gwaith Crynwrol?
21. A ydych yn anwylo pob cyfeillgarwch, fel y byddont yn dyfnhau ac yn cynyddu mewn dealltwriaeth a pharch o’r ddeutu? Ym mhob perthynas glòs efallai y bydd rhaid mentro poen ogystal â chanfod llawenydd. Wrth brofi hapusrwydd mawr neu loes fawr, efallai ein bod yn fwy agored i waith yr Ysbryd.
22. Perchwch yr amrywiaeth eang sydd yn ein mysg yn ein bywydau a’n cysylltiadau. Gochelwch rhag ffurfio barn ragfarnllyd am deithiau bywyd pobl eraill. A ydych yn meithrin yr ysbryd o gyd-ddyheu ac o faddeuant a fynnir gennym, a ninnau’n ddisgyblion? Cofiwch fod pob un ohonom yn unigryw, yn werthfawr, yn blentyn i Dduw.
23. Ystyriodd Cyfeillion erioed fod priodas yn ymrwymiad crefyddol yn hytrach na chytundeb sifil yn unig. Dylai’r ddeuddyn gynnig gyda chymorth Duw fwriad i goledd y naill a’r llall gydol eu hoes. Cofiwch fod hapusrwydd yn dibynnu ar ddealltwriaeth a serch diysgog o’r ddeutu. Pan ddaw amseroedd anodd, cofiwch werth gweddi a dyfalbarhad a synnwyr didrifwch.
24. Y mae ar blant a phobl ifanc angen cariad a sefydlogrwydd. A ydym yn gwneud a allom i gynnal rhieni ac eraill sy’n dwyn y cyfrifoldeb o ddarparu’r gofal hwn?
25. Y mae perthynas tymor-hir yn dwyn tyndra yn ogystal â boddhad. Os yw eich perthynas â’ch partner dan straen, ceisiwch gymorth i ddeall safbwynt y llall ac i archwilio’ch teimladau eich hunain, teimladau a all fod yn bwerus a dinistriol. Ystyriwch ddymuniadau a theimladau unrhyw blant sydd ynghlwm wrthych, gan gofio eu hangen parhaol am gariad a sicrwydd. Ceisiwch arweiniad Duw. Os wynebwch y trallod o ymwahanu neu o ysgaru, ceisiwch gadw rhyw gyswllt tosturiol fel y galloch wneud trefniadau heb fwy o chwerwder nad sydd raid.
26. A ydych yn adnabod anghenion a doniau pob aelod o’ch ty a’ch tylwyth, heb anghofio’r eiddoch chwi’ch hunan? Ceisiwch wneud eich cartref yn drigfa cyfeillgarwch cariadus a mwynhad, lle y gall pawb sy’n byw neu’n ymweld ddod o hyd i dangnefedd ac adfywiad presenoldeb Duw.
27. Byddwch byw yn anturus. Pan fo modd dewis, a ddewiswch y llwybr a rydd ichwi fwyaf o gyfle i ddefnyddio’ch doniau yng ngwasanaeth Duw a’r gymuned? Boed i’ch bywyd lefaru. Pan fo’n rhaid penderfynu, a ydych yn barod i ymuno ag eraill wrth chwilio am lwybr eglur, gan ofyn am arweiniad Duw a chan gynnig cyngor y naill i’r llall?
28. Ym mhob gris yn ein bywyd y mae cyfleusterau newydd o hyd. Gan ymateb i arweiniad dwyfol, ceisiwch ymglywed â’r adeg briodol i ysgwyddo neu i drosglwyddo cyfrifoldebau heb falchder nac euogrwydd amhriodol. Gofalwch am yr hyn a ofyn cariad oddi arnoch; efallai nad prysurdeb mawr mo hynny.
29. Wynebwch henaint yn ddewr a gobeithiol. Hyd y gellir, gwnewch mewn da bryd drefniadau am eich gofal, fel na bo baich afresymol yn disgyn ar bobl eraill. Er y dichon henaint ddwyn anabledd ac unigrwydd cynyddol, gall hefyd ddod â llonyddwch ac arwahanrwydd a doethineb. Gweddïwch am gael eich galluogi yn eich blynyddoedd olaf i ganfod ffyrdd newydd o dderbyn ac adlewyrchu cariad Duw.
30. A ydych yn abl i ystyried eich marwolaeth a marwolaeth eich anwyliaid? O dderbyn marwolaeth fel ffaith, fe’n rhyddheir i fyw yn llawnach. Mewn profedigaeth, caniatewch i chwi’ch hunan amser i alaru. Pan fo eraill yn galaru, gadewch i’ch cariad eu cofleidio.
31. Gelwir arnom i fyw ‘yn rhinwedd y bywyd a’r gallu sy’n symud achos rhyfeloedd’. A ydych yn cynnal yn ffyddlon ein tystiolaeth fod rhyfel, a pharatoi am ryfel, yn anghyson ag ysbryd Crist? Chwiliwch yn eich ffordd o fyw am unrhyw arwydd o hadau rhyfel . . . Sefwch yn gadarn yn ein tystiolaeth, hyd yn oed pan fo eraill yn cyflawni neu’n paratoi i gyflawni gweithredoedd o drais; ond cofiwch eu bod hwythau hefyd yn blant i Dduw.
32. Dygwch i oleuni Duw yr emosiynau, yr agweddau, y rhagfarnau hynny ynoch eich hunan sydd wrth wraidd gwrthdaro dinistriol, gan gydnabod fod arnoch angen maddeuant a gras. Ym mha ffyrdd yr ydych yn llafurio i gymodi rhwng unigolion a grwpiau a chenhedloedd?
33. A ydych yn effro i arferion, yma a thrwy’r byd, sy’n gwahaniaethu yn erbyn pobl ar sail pwy neu beth ydynt neu oherwydd yr hyn a gredant? Dygwch dystiolaeth i ddynoliaeth pob un, gan gynnwys y rhai sy’n tramgwyddo confensiynau neu ddeddfau cymdeithas. Ceisiwch ddirnad y mannau lle ceir tyfiant newydd mewn bywyd cymdeithasol ac economaidd. Ceisiwch ddeall yr achosion am anghyfiawnder ac aflonyddwch cymdeithasol ac ofn. A ydych yn gweithio i greu cymdeithas gyfiawn a thosturiol a rydd gyfle i bawb ddatblygu eu galluoedd ac a feithrin eu hawydd i wasanaethu?
34. Cofiwch eich cyfrifoldeb fel dinesydd am reolaeth materion lleol, cenedlaethol a rhyng-genedlaethol. Peidiwch ag arbed yr amser a’r ymdrech y gall eich ymrwymiad ei hawlio.
35. Perchwch ddeddfau’r wladwriaeth ond boed eich teyrngarwch pennaf i fwriadau Duw. Os cymhellir chwi gan argyhoeddiad cryf i dorri’r ddeddf, chwiliwch eich cydwybod i’w ddyfnderau . . . Gofynnwch i’ch cwrdd am y gefnogaeth weddigar a’ch nertha wrth i’r llwybr cywir agor o’ch blaen.
36. A ydych yn cynnal y rhai hynny sydd yn gweithredu dan gonsyrn, hyd yn oed os nad yw eu ffordd yr un â’r eiddoch chwi? Tra’m chwilio gydag eraill am ewyllys Duw ar eu cyfer, a ellwch osod o’r neilltu eich dymuniadau a’ch rhagfarnau eich hunan?
37. A ydych yn onest a didwyll ym mhob peth a ddywedwch ac a wnewch? A ydych yn gwbl onest mewn trafodion masnachol ac yn eich ymwneud ag unigolion a sefydliadau? A ydych yn trin arian a gwybodaeth a ymddiriedir i chwi mewn modd doeth a chyfrifol? Y mae tyngu llwon yn awgrymu safon ddeublyg o wirionedd: wrth ddewis yn hytrach gadarnhau, cofiwch eich bod yn haeru onestrwydd.
38. Os pwysir arnoch i ostwng eich safon o gywirdeb, a ydych yn barod i wrthsefyll hynny? Gall ein cyfrifoldebau i Dduw ac i’n cymydog olygu gwneud safiad amhoblogaidd. Na foed i’r awydd am fod yn gymdeithasol, neu ofn ymddangos yn od, gyflyru eich penderfyniad.
39. Ystyriwch pa ffyrdd i hapusrwydd a gynigir gan gymdeithas sy’n rhoi gwir fodlonrwydd a pha rai sy’n dwyn hadau llygredd a dinistr. Byddwch yn ofalus wrth ddewis cyfryngau difyrrwch a gwybodaeth. Gwrthwynebwch yr awydd i ennill meddiannau neu incwm trwy fuddsoddi’n anfoesol, neu trwy fentro arian yn anfoesol, neu trwy hap-chwarae.
40. Yn wyneb y niwed a chosir trwy’r defnydd o alcohol a thybaco a chyffuriau eraill sy’n creu dibyniant, ystyriwch a ddylech gyfyngu eich defnydd ohonynt neu ymwrthod yn gyfan-gwbl â hwynt. Cofiwch y gall unrhyw ddefnydd o alcohol neu gyffuriau amharu ar eich gallu i farnu, gan roi’r defnyddiwr ac eraill mewn perygl.
41. Ceisiwch fyw yn syml. Y mae dewis dull syml o fyw yn ffynhonnell cryfder. Peidiwch â chael eich perswadio i brynu dim nad oes arnoch mo’i angen neu na ellwch ei fforddio. A ydych yn gofalu cael gwybod am effeithiau eich dull chwi o fyw ar y economi a’r amgylchedd byd-eang?
42. Nid ni piau’r byd, ac nid eiddom ni mo’i oludoedd i’w gwaredu fel y mynnom. Dangoswch ofal cariadus am bob creadur, a cheisiwch warchod prydferthwch ac amrywiaeth y byd. Ymdrechwch i sicrhau fod ein goruchafiaeth gynyddol ar natur yn cael ei defnyddio’n gyfrifol, gyda pharch at fywyd. Llawenhewch yn ysblander creadigaeth barhaol Duw.
Byddwch yn patrymau, yn esiamplau yn y gwledydd, lleodd, ynysoedd a’r cenhedloedd oll, i ba le bynnag y deloch; fel y byddo eich ymarweddiad a’ch bywyd yn bregeth ymhlith pobl o bob math, ac yn llefaru wrthynt. Felly y derfydd i chwi deithio drwy’r byd yn siriol, gan ymateb i’r hyn sydd o Dduw ym mhob dyn.
George Fox, 1656.
Mae'r dudalen hon ar gael yn English hefyd